Isaac B. Williams (Llew Deulyn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:40, 2 Mawrth 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd ar gyngherddau ac eisteddfodau yn Nyffryn Nantlle tua dechrau'r ganrif diwethaf oedd Isaac B. Williams, Nantlle. Fe'i adweinid yn eang fel Llew Deulyn. Teithiodd ledled y sir a phelled a Lerpwl yn canu ac adrodd mewn cyngherddau ac mewn eisteddfodau, gan ennill yn y rheiny'n fynych.

Fe aned, mae'n debyg, mewn tŷ yn Rhesdai Pen-yr-orsedd, Nantlle ym 1871, yn fab i Thomas B. a Hannah Williams. Roedd ei dad yn chwarelwr ac yn is-bostfeistr Nantlle, swyddi a ddaliodd am ugain mlynedd a mwy. Ar ôl tyfu'n ddigon hen, aeth Isaac i'r chwarel hefyd. Fe briododd Mary Jones, dynes yr un oed ag ef, ac o'r un ardal, ym 1893, gan ymgartrefu yn 7 Rhesdai Nantlle; yn y man, symudodd y teulu i 18 Rhes Victoria.[1] Parhaodd i weithio yn y chwarel, agn ddod yn lladmerydd dros chwareli llechi ac yn gryn arbenigwr ar eu ffyniant.[2]

Canodd G.W. Francis englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y Dinesydd ym 1919:

Llith i'r Llew
Lew i'n deffro, Llew ein Dyffryn – Llew doeth
Llew dewr i'n hamddiffyn,
Llew mawr gwlad, Llew mwya'r glyn,
Llew dwywlad yw Llew Deulyn."
G.W. Francis[3]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1911; Mynegai Priodasau Cymru a Lloegr, 1893; gwefan FindMyPast
  2. Gweler, er enghraifft, Cambrian News, 19.5.1916, t.5, lle sonnir am lyuthyr gan Llew Deulyn am "Slate Quarrying and Science".
  3. Y Dinesydd Cymreig, 17.12.1919, t.2