Isaac B. Williams (Llew Deulyn)
Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd ar gyngherddau ac eisteddfodau yn Nyffryn Nantlle tua dechrau'r ganrif diwethaf oedd Isaac B. Williams, Nantlle. Fe'i adweinid yn eang fel Llew Deulyn. Teithiodd ledled y sir a phelled a Lerpwl yn canu ac adrodd mewn cyngherddau ac mewn eisteddfodau, gan ennill yn y rheiny'n fynych.
Canodd G.W. Francis englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y Dinesydd ym 1919:
- Llith i'r Llew
- Lew i'n deffro, Llew ein Dyffryn – Llew doeth
- Llew dewr i'n hamddiffyn,
- Llew mawr gwlad, Llew mwya'r glyn,
- Llew dwywlad yw Llew Deulyn."
- G.W. Francis[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Y Dinesydd Cymreig, 17.12.1919, t.2