Isaac B. Williams (Llew Deulyn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:14, 2 Mawrth 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adroddwr ac arweinydd poblogaidd ar gyngherddau ac eisteddfodau yn Nyffryn Nantlle tua dechrau'r ganrif diwethaf oedd Isaac B. Williams, Nantlle. Fe'i adweinid ynen ang fel Llew Deulyn.

Canodd G.W. Francis englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y Dinesydd ym 1919:

Llith i'r Llew
Lew i'n deffro, Llew ein Dyffryn – Llew doeth
Llew dewr i'n hamddiffyn,
Llew mawr gwlad, Llew mwya'r glyn,
Llew dwywlad yw Llew Deulyn."
G.W. Francis[1]

Cyfeiriadau

  1. Y Dinesydd Cymreig, 17.12.1919, t.2