Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:57, 30 Hydref 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ceir isod adysgrif Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol Clerigwyr Esgobaeth Bangor, sef Cyfieithiad rhannol o tt.226-7 “Record of Caernarvon” [1] Un o roliau y Drysorlys yw'r ddogfen, ac er nad yw'n cynnwys dyddiad, credir ei fod yn nodi'r manylion a geir mewn dogfen a elwir yn "Taxatio Lincoln" neu "Taxatio'r Pab Nicholas II", dyddiedig 1291.[2] Nodir yn Archaeologia Cambrensis mai Anian Goch oedd enw'r profost ar y pryd.[3] Yn y Lladin fe'i gelwid yn Anian Rufi; sef "rufus", neu gochaidd.


Manylion Deoniaeth Arfon

Credir mai'r isod yn cyfeirio at gyfranogwyr eglwys golegol Clynnog Fawr ac yn rhestru'r cydgyfranogwyr. Dangosir yma hefyd unig fanylion eraill am Ddeoniaeth Arfon, sef yr hyn a gesglid gan Eglwys Llanbeblig. Un Anian Goch oedd y prif glerigwr y sefydliad, a elwid yn rheithor neu brofost.

D.S.(1) Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig sydd yn adysgrif o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, a honno ei hun yn gopi o'r gwreiddiol. Wrth wneud y cyfieithiad rhydd hwn ni chyfeiriwyd at y ddogfen wreiddiol. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiwn argraffedig.

D.S. (2): Mae dotiau "...." yn dynodi rhannau sydd yn ymwneud ag ardaloedd eraill ac sydd felly heb gael eu cyfieithu.

Y Testun

Adysgrif Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol Clerigwyr Esgobaeth Bangor ar ran Drysorlys yr Arglwydd Frenin Lloegr presennol.
....
Archddiaconiaeth Bangor

....

Dyma asesiad Deoniaeth Arfon gan Ddeon a rheithwyr eraill y Ddeoniaeth hon.


* Cyfran Meistr Anian Goch yn deillio o Eglwys Clynnog Fawr	9½ marc	12s. 8c.
* Cyfrannau sy’n dod i William Fychan a rhoddion hefyd	8 marc	10s. 8c.
* Cyfran Caplan Mathew yn deillio o’r uchod	7½ marc	10s. 0c.
* Cyfran Caplan Ioan yn deillio o’r uchod	7½ marc	10s. 0c.
* Cyfran Caplan Dafydd yn deillio o’r uchod	7 marc	9s. 4c.
* Eglwys Llanbeblig	8½ marc	11s. 4c.

Cyfanswm: £32  Y degwm yn deillio o hyn: 64s.

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.226-7
  2. Archddiacon Bangor, "The Re-opening of Clynnog Fawr in Arfon", Welsh Outlook", Cyf.16, Rhif 7 (Gorffennaf 1929), t.14; Erthygl Wikipedia ar Taxatio Ecclesiastica, cyrchwyd 30.10.2024 [1]
  3. Adroddiad am anerchiad Harold Hughes yng Nghlynnog Fawr yn Archaeologia Cambrensis, Cyfres 7, Cyf. 6 (1929), t.476