Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm
Ceir isod adysgrif Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol Clerigwyr Esgobaeth Bangor, sef Cyfieithiad rhannol o tt.226-7 “Record of Caernarvon” [1] Un o roliau y Drysorlys yw'r ddogfen, ac er nad yw'n cynnwys dyddiad, credir ei fod yn nodi'r manylion a geir mewn dogfen a elwir yn "Taxatio Lincoln" neu "Taxatio'r Pab Nicholas II", dyddiedig 1291.[2] Nodir yn Archaeologia Cambrensis mai Anian Goch oedd enw'r profost ar y pryd.[3]
Manylion Deoniaeth Arfon
Credir mai'r isod yn cyfeirio at gyfranogwyr eglwys golegol Clynnog Fawr ac yn rhestru'r cydgyfranogwyr. Dangosir yma hefyd unig fanylion eraill am Ddeoniaeth Arfon, sef yr hyn a gesglid gan Eglwys Llanbeblig. Un Anian Ruffy oedd y prif glerigwr y sefydliad, a elwid yn rheithor neu brofost.
D.S.(1) Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig sydd yn adysgrif o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, a honno ei hun yn gopi o'r gwreiddiol. Wrth wneud y cyfieithiad rhydd hwn ni chyfeiriwyd at y ddogfen wreiddiol. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiwn argraffedig.
D.S. (2): Mae dotiau "...." yn dynodi rhannau sydd yn ymwneud ag ardaloedd eraill ac sydd felly heb gael eu cyfieithu.
Y Testun
Adysgrif Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol Clerigwyr Esgobaeth Bangor ar ran Drysorlys yr Arglwydd Frenin Lloegr presennol. ....
Archddeoniaeth Bangor
....
Dyma asesiad Deoniaeth Arfon gan Ddeon a rheithwyr eraill y Ddeoniaeth hon.
* Cyfran Meistr Anian Ruffy yn deillio o Eglwys Clynnog Fawr 9½ marc 12s. 8c. * Cyfrannau sy’n dod i William a rhoddion hefyd 8 marc 10s. 8c. *Cyfran Caplan Mathew yn deillio o’r uchod 7½ marc 10s. 0c. * Cyfran Caplan Ioan yn deillio o’r uchod 7½ marc 10s. 0c. * Cyfran Caplan Dafydd yn deillio o’r uchod 7 marc 9s. 4c. * Eglwys Llanbeblig 8½ marc 11s. 4c. Cyfanswm: £32 Y degwm yn deillio o hyn: 64s.
Cyfeiriadau
- ↑ Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.226-7
- ↑ Archdiacon Bangor, "The Re-opening of Clynnog Fawr in Arfon", Welsh Outlook", Cyf.16, Rhif 7 (Gorffennaf 1929), t.14;
- ↑ Adroddiad am anerchiad Harold Hughes yng Nghlynnog Fawr yn Archaeologia Cambrensis, Cyfres 7, Cyf. 6 (1929), t.476