Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:17, 30 Hydref 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ceir isod adysgrif Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol Clerigwyr Esgobaeth Bangor, sef Cyfieithiad rhannol o tt.226-7 “Record of Caernarvon” [1] Un o roliau y Drysorlys yw'r ddogfen, ac er nad yw'n cynnwys dyddiad, mae awdur rhagair i'r Record of Caernarvon yn awgrymu ei fod yn hanu o ail hanner y 14g., yn ystod oes y brenin Rhisiart II.[2]


Manylion Deoniaeth Arfon

Credir mai'r isod yn cyfeirio at gyfranogwyr eglwys golegol Clynnog Fawr ac yn rhestru'r cydgyfranogwyr. Dangosir yma hefyd unig fanylion eraill am Ddeoniaeth Arfon, sef yr hyn a gesglid gan Eglwys Llanbeblig. Un Anian Ruffy oedd y prif glerigwr y sefydliad, a elwid yn rheithor neu brofost.

D.S.(1) Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig sydd yn adysgrif o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, a honno ei hun yn gopi o'r gwreiddiol. Wrth wneud y cyfieithiad rhydd hwn ni chyfeiriwyd at y ddogfen wreiddiol. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiwn argraffedig.

D.S. (2): Mae dotiau "...." yn dynodi rhannau sydd yn ymwneud ag ardaloedd eraill ac sydd felly heb gael eu cyfieithu.

Y Testun

Adysgrif Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol Clerigwyr Esgobaeth Bangor ar ran Drysorlys yr Arglwydd Frenin Lloegr presennol.
....
Archddeoniaeth Bangor

....

Dyma asesiad Deoniaeth Arfon gan Ddeon a rheithwyr eraill y Ddeoniaeth hon.


* Cyfran Meistr Anian Ruffy yn deillio o Eglwys Clynnog Fawr	9½ marc	12s. 8c.
* Cyfrannau sy’n dod i William a rhoddion hefyd	8 marc	10s. 8c.
*Cyfran Caplan Mathew yn deillio o’r uchod	7½ marc	10s. 0c.
* Cyfran Caplan Ioan yn deillio o’r uchod	7½ marc	10s. 0c.
* Cyfran Caplan Dafydd yn deillio o’r uchod	7 marc	9s. 4c.
* Eglwys Llanbeblig	8½ marc	11s. 4c.

Cyfanswm: £32  Y degwm yn deillio o hyn: 64s.

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.226-7
  2. op. cit,, t.iv