Maengwyn, Llanwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:01, 16 Hydref 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Maengwyn yn cael ei godi yn ystod y 1820au wrth ochr ffordd dyrpeg newydd o Gaernarfon i Bwllheli, nid nepell o bentref presennol Llanwnda. Mae'r Map Degwm (1843) yn dangos fod nifer o gaeau o bobtu'r ffordd fawr yn perthyn i'r tŷ. Maer'n debyg ni cyfrifid Maengwyn yn fferm, ond byddai'r caeau'n ddefnyddiol fel caeau pori ar gyfer ceffyl ac ati, gan fod yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio mwy nag unwaith fel cartref i'r ficer lleol. Mae'n debyg i'r tŷ gael ei godi gan rywun proffesiynol. Saif ar draws y ffordd fawr i dŷ diweddarach, Graeanfryn, ac yn wir am gyfnod sylweddol yn ystod y 19g., mae'n ymddangos fod y tŷ'n cael ei adnabod gan y naill enw neu'r llall.

Mae'r tŷ wedi ei restru'n radd II gan Cadw.[1]

Am hanes trigolion y tŷ, gweler, yr erthygl ar Graeanfryn.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein [1], cyrchwyd 16.10.2024