Hedfan
Un a ymddiddorai yn fawr yng ngwyddor hedfan oedd Hywel Tudur Hedfan (Hywel Roberts (1840-1922), Clynnog Fawr.
Yn ôl Dr Gwilym Arthur Jones: "Bu wrthi am dros chwarter canrif yn pendroni uwchben y broblem a threulio misoedd bwygilydd ymhlith adar, chwilod a gwenyn yn dyfal wylio eu symudiadau trwy ddefnyddio chwyddwydr.. Y broblem a'i hwynebai oedd - pam fod ganddynt gyrff mor drwm ac adenydd mor fychain?
"Cafodd y syniad o ddyfeisio propelar ac aeth ati i osod y cynllun ar bapur. Nid hynny'n unig ond penderfynodd anfon y cynllun at arbenigwyr y swyddfa batent yn Llundain. Daeth ateb yn dweud iddynt dderbyn ei gynlluniau cyntaf ar gyfer 'A propellor or Driving Wheel to put in motion vehicles, boats and flying machines' ar Hydref 14, 1916. Ymhen blwyddyn derbyniwyd y cyfan o'i syniadau.
"Ceir ganddo ddisgrifiad manwl o'r ddyfais ynghyd â diagram.
"Bu yn ei fryd gynllunio a saernïo awyren (gleidar, yn ôl ei wyres) a dywedir i rai gwŷr tra phwysig ymweld ag ef ynglŷn â'r fenter ond, o ddiffyg cefnogaeth ariannol, llesteiriwyd y bwriad." [1]
Cyfeiriadau
- ↑ Allan o Hywel Tudur, 1840-1922, Bardd.Pregethwr.Dyfeisydd Golygwyd gan Catrin Pari Huws. Argraffwyd gan Wasg Pantycelyn, Caernarfon. (1993)Yn y llyfr hwn ceir y manylion llawn a anfonwyd at y Swyddfa Batent a llun o'r ddyfais.