David Williams, Fern Villa
Gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd oedd David Williams (bu farw 1920) a ymddeolodd i Fern Villa, Llanwnda ym 1898. Brawd iddo oedd y Parch. R.O. Williams, Penmaenmawr. Cyn symud i Lanwnda, roedd David Williams wedi bod yn weinidog y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhenmorfa. Er iddo ymddeol, bu'n weithredu fel gweinidog cyntaf Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda, a hynny heb dderbyn cyflog.[1] Hen lanc ydoedd, a'i chwaer Martha'n cadw tŷ iddo, a morwyn hefyd yn byw yno. Bu yn Fern Villa hyd 1916, ar ôl cyfnod o salwch a rwystrodd o heb gadw ei gyhoeddiadau. Erbyn hynny roedd o hefyd wedi colli llawer o'i olwg. Mewn nodyn yn y Goleuad, dywedwyd "Ni bu pregethwr mwy gwreiddiol nag ef mewn pwlpud a chofir yn hir am rai o'i bregethau." [2] Yr un flwyddyn rhoddodd £50 at glirio'r ddyled ar Gapel Glan-rhyd (cyfystyr â dros £5000 heddiw). Ymddengys fod dyn o'r enw William Jones, blaenor gyda'r enwad, wedi symud ym 1916 i Fern Villa am gyfnod hir wedi i David Williams farw.[3]
Bu farw Martha Williams, a oedd wedi bod yn byw gyda David Williams am gyfnod hir ym 1918; rywbryd cyn ei marwolaeth, symudodd y ddau i Bryniau, Llanwnda.[4]
Bu farw David Williams, 3 Ebrill 1920, gan adael ystad sylweddol gwerth £7235 (tua £750,000 yn arian heddiw). Nodir ei gyfeiriad fel Bryniau, Llanwnda.[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma