Tal-y-mignedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:47, 14 Mehefin 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tal-y-mignedd yn enw ar dair fferm ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle: Tal-y-mignedd Isaf, Tal-y-mignedd Ganol a Tal-y-mignedd Uchaf. Mae mynydd o'r enw Mynydd Tal-y-mignedd yn un o brif gopaon Crib Nantlle. John Evans, Chwarel Cilgwyn yw un o ddisgynyddion Tal-y-mignedd.

Ceir y ffurf Talmigneth ym 1638 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Tall migneth mewn dau gyfeiriad o 1658 (Casgliad Nannau a Chasgliad Mostyn, Prifysgol Bangor). Yn asesiadau'r Dreth Dir ym 1770 a 1771 gwelir yr ynganiad llafar Talmingnadd Ucha / Talmignadd Isa. Yn y ffynhonnell honno am 1816 cofnodwyd Talmignant Uchaf a Talmignant Isaf, ond dyna'r unig enghraifft a welwyd o'r newid hwn yn enw Tal y Mignedd. Ystyr mign yw tir corsiog, gwlyb neu fwdlyd. Un o'r ffurfiau lluosog yw mignedd: ceir mignau a mignïoedd hefyd. Felly enw disgrifiadol yw hwn. Saif Tal y Mignedd Uchaf a Tal y Mignedd Isaf ar dal neu ben eithaf y corsydd sydd yn yr ardal. Ceir yr enw mign mewn nifer o enwau lleoedd, megis annedd o'r enw Mignant yn Llanllechid ac ucheldir Y Migneint uwchlaw Llan Ffestiniog. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.234-5