Michael Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:21, 13 Mehefin 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pregethwr ac athro o Gymro oedd y Parch. Michael Roberts (1780-29 Ionawr 1849).

Cafodd Roberts ei eni yn Llanllyfni, yn fab i'r prethethwr John Roberts, Llangwm. Yr oedd yn nai i Robert Roberts, Clynnog Fawr. Ym 1802 symudodd i Bwllheli a bu'n gofalu am ysgol. Cychwynnodd bregethu ym 1798 ac fe'i hordeiniwyd ef gan y Methodistiaid Calfinaidd ym 1814. Ym 1836 cafodd chwalfa feddyliol. Bu farw yn 68 oed.[1]

Ei fywyd yw testun y nofel Meical gan Owain Owain a gyhoeddwyd ym 1976.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain 1953), t.819 [1]