Ysgol Brynaerau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:42, 10 Mehefin 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol gynradd a agorwyd yn wreiddiol i wasanaethu ardal Mhontlyfni yw Ysgol Brynaerau.

Agorwyd yr ysgol ym 1902-3, yn wreiddiol yn festri Capel Brynaerau (MC) a gelwid hi bryd hynny yn Brynaerau Council School. Mae'r ysgol yn gweithredu hyd heddiw yn yr adeilad a godwyd ym 1912, er bod darnau diweddarach wedi cael eu hychwanegu ato.[1] Fe'i hystyrid yn adeilad arloesol oherwydd maint a nifer y ffenestri, a hynny yn ôl cysyniad "ysgol awyr agored". Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal weddol eang, yn cynnwys Clynnog Fawr, Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Aberdesach a Phontlyfni. [2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Robert Wyn yn Lleu, rhif 562, Mehefin 2024, t.22
  2. Archifdy Caernarfon, Llyfrau Log Ysgol Brynaerau 1905-1948, XES1/35; Gwefan Swyddogol Ysgol Gynradd Brynaerau [1]