Buarth Greyenyn Rhys Goch
Ceir dau gyfeiriad ymysg Llawysgrifau Bangor yn archifau'r Brifysgol at yr enw cae anghyffredin hwn yn nhrefgordd Bodellog ym mhlwyf Llanwnda. Yn y cyfeiriad cynharaf ym 1597 ceir y ffurf lawn Buarth grayenyn Rees goch a'r ffurf fyrrach, sef buarth grayenyn, ym 1629. Ffurf fachigol unigol greaen yw greyenyn/graeanen, sef gronyn bach o dywod neu garreg. Mae'n anodd credu y byddai un gronyn bach yn llythrennol yn rhoi ei enw i le arbennig, ond efallai mai'r hyn a geir yma yw cyfeiriad at ryw faen mawr a gludwyd yno'n chwedlonol gan arwr lleol o'r enw Rhys Goch; h.y. nad oedd cario carreg enfawr yn fwy o ymdrech iddo na phe bai'n ronyn bach. Cofnodwyd enw arall ar y cae hwn yn yr un ffynhonnell, sef Buarth y Maen Mawr. Ceir llawer o chwedlau gwerin sy'n cysylltu meini mawr neu gromlechi ag arwyr neu gewri - e.e. ar lan Llyn y Tri Greyenyn ym mhlwyf Tal-y-llyn, Meirionnydd, ceir tri maen mawr a daflwyd yn ôl y chwedl gan Idris Gawr o'i esgid am eu bod yn brifo'i droed. Efallai mai arwr o'r fath oedd Rhys Goch yntau. Un gŵr gweddol leol o'r enw hwn oedd Rhys Goch Eryri, bardd o'r 15g a hanai o Feddgelert ond er bod nifer o chwedlau wedi'u cysylltu ag ef nid oes yr un ohonynt yn sôn am ei gryfder corfforol eithriadol. Roedd Rhys Goch yn enw gweddol gyffredin a gallai gyfeirio at rhyw wron lleol yr anghofiwyd amdano'n llwyr erbyn hyn.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.53-4