Hywel Gethin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:30, 4 Mehefin 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Hywel Gethin o blwyf Clynnog Fawr yn fardd a oedd yn byw tua diwedd y 15g. Meddir ei fod yn achyddwr yn ogystal â bardd ond yr unig waith o'i eiddo sydd wedi goroesi yw cywydd yn canmol pedwar mab Rhys ap Hywel ap Madog o Lanystumdwy.[1]

Mae'r cywydd ar gael mewn llythyr a anfonodd Eben Fardd at olygydd Y Brython ym 1860.[2]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur ar lein, [1], cyrchwyd 4.6.2024
  2. Eben Fardd, llythyr yn Y Brython, Mehefin 1860, tt.233-4