Wernlas Ddu a Wernlas Wen
Saif anheddau Wernlas Ddu a Wernlas Wen ar gyrion gogledd-orllewinol Rhostryfan. Enwau cyfansawdd yn cynnwys gwern + glas yw'r elfen gyntaf bron yn sicr. Mae coed gwern (unigol: gwernen, Saesneg: alder) yn tyfu mewn tir gwlyb a chorsiog, ond mewn enwau lleoedd mae gwern yn aml yn cyfeirio at weirglodd laith lle mae'r coed hyn yn tyfu, yn hytrach nag at y coed eu hunain. Dyna a geir yn debygol iawn yn enwau Wernlas Ddu a Wernlas Wen. Ond os yw'r wern yn las, sut y gall fod yn ddu ac yn wyn hefyd? Cyfeirir at y wern laeys ym 1509 (Casgliad Llanfair a Brynodol, LlGC) ac at yr wern lase yn yr un ffynhonnell ym 1511. Mae'n ymddangos fel Tythin y Wern Las ym 1696 (Casgliad y Faenol, Gwasanaeth Archifau Gwynedd), a Wernlas mewn ewyllys ym 1767. Yn asesiadau'r Dreth Dir, sy'n ffynhonnell dda ar gyfer ffurfiau llafar, ceir wer lâs ddû / wr las wenn ym 1770 a Wer las ym 1809. Yn llyfr siop Rhostryfan ym 1858-9 ceir y ffurfiau cartrefol werlasthy a werlasddu