Ysgol Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:02, 13 Mai 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mr Glyn Owen (prifathro) a rhai o'r disgyblion yn dathlu canmlwyddiant yr ysgol, 1963. CC-BY-2.0 (LlGC, Casgliad Geoff Charles)

Sefydlwyd Ysgol Frytanaidd Llanllyfni yn y pentref ym 1863, a chynhaliwyd canmlwyddiant ei sefydlu fis Mehefin 1963, pan oedd Mr Glyn Owen yn brifathro. Mae’r ysgol, a elwir bellach yn Ysgol Gynradd Llanllyfni, yn dal yn agored gyda thua 90 o ddisgyblion. Dysgir trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn wreiddiol, roedd Ysgol Llanllyfni yn gorfod derbyn plant o ardal Pen-y-groes ond fel y tyfodd yr ardal honno, teimlid fod rhaid cael ysgol newydd yno, ac ar ddechrau’r 1870au codwyd ysgol newydd yno gan y Gymdeithas Ysgolion Brytanaidd.[1]

Ym mis Hydref 1873 trosglwyddwyd Ysgol Llanllyfni o’r Gymdeithas Brytanaidd i ofal Bwrdd Ysgol newydd etholedig plwyf Llanllyfni. Aed ati i wella’r adeilad nes y gellid ei ddisgrifio yn y papur newydd fel “a very good and convenient schoolroom”, ac fe agorodd ar ei newydd wedd fis Ionawr 1874. James Evans, a ddaeth o Goleg Normal Bangor, gafodd ei benodi’n brifathro, a phenodwyd un Miss Hughes a oedd gynt yn athro-ddisgybl yng Nghaergybi, yn athrawes gynorthwyol.[2].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. North Wales Chronicle, 5.6.1869, t.3
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 17.1.1874, t.5