Llwynaethnen
Ffermdy ym mhentref Trefor yw Llwynaethnen. Fe'i hadeiladwyd yn yr 16g ac fe'i hailadeiladwyd yn rhannol yn 1718. Mae'r muriau wedi eu hadeiladu o rwbel a morter ar sylfaen o gerrig mawr. Mae'r to a brest y simnai wedi eu gorchuddio â llechi bychan, trwchus o liw porffor. Mae gan borth y drws ar yr ochr ogleddol fwa hanner-cylch o gerrig heb eu trin; mae porth drws gyferbyn ar yr ochr ddeheuol wedi cael ei gau. Mae'r ffenestri ar y ddau lawr yn sgwar lle maent heb gael eu newid ac mae ganddynt siliau o lechi llyfn. Mae'r simnai orllewinol wedi cael ei hailadeiladu a hefyd ran uchaf y talcen ac mae'r dyddiad N/HT/1718 wedi ei roi mewn tabled ar ochr y talcen.