Tyddyn Gwydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:27, 3 Ebrill 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif annedd Tyddyn Gwŷdd heb fod ymhell o hen gyffordd Tryfan ar Reilffordd Eryri ac fe'i lleolir yn Rhostryfan yng Nghyfeiriadur y Cod Post. Fodd bynnag, Tyddyn Gwydd heb acen grom o gwbl i ddangos sut y dylid ynganu'r enw a geir yn y Cyfeiriadur ac mewn sawl cyfeiriad arall. Ond mewn cofnod o 1858-9 yn llyfr siop Rhostryfan nodir Tyddun gwudd, sy'n dangos y sain yn glir, gyda'r acen grom ar yr 'y' yn hytrach na'r 'w'. Anodd yw penderfynu ar ystyr gwŷdd yma; gall fod yn gwŷdd = coed, gwŷdd = gwehydd (weaver), neu hyd yn oed gwŷdd = y ffrâm y mae gwehydd yn gweithio arni. Fodd bynnag, mae rhai cofnodion yn cynnwys y fannod. Tyddyn y gwydd a geir mewn ewyllys o 1857 ac mae hynny efallai'n awgrymu mai cartref gwehydd oedd y tyddyn, yn hytrach na thyddyn mewn coed. Mae'n gyffredin iawn cael enw crefftwr ar ôl yr elfen tyddyn. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.246-7