Grafog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:11, 18 Mawrth 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae annedd o'r enw Grafog i'r de o bentref Y Groeslon. Mewn rhai achosion mae crafog i'w gael fel ansoddair, ond yma enw benywaidd unigol ydyw - 'y Grafog', sef man lle mae llawer o graf neu arlleg gwyllt yn tyfu. Mae craf yn elfen weddol gyffredin mewn enwau lleoedd. Cyfeiriwyd at y Grafog ym mhlwyf Llandwrog fel Kay y Gravok ym 1556 (Casgliad Newborough, Glynllifon). Griafog a nodir ar fap Ordnans 1838 a Grafog bob tro ar ôl hynny.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.174