Gwernafalau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:07, 14 Mawrth 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae annedd Gwernafalau i'r gogledd o bentref Llandwrog. Ystyr yr elfen gyntaf gwern yw tir corsiog a gwlyb lle mae coed gwern (alder) yn tyfu. Fodd bynnag, coed afalau oedd yn y wern hon ac mae'n debygol mai afalau surion yn hytrach nag afalau bwyta oeddynt. Cofnodwyd Gwern y fale ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ac mewn sawl ffynhonnell arall, ac mae'r fannod y yn y rhain yn gamarweiniol iawn. Gwern afalau, fel y nodwyd yn y Rhestr Pennu Degwm ym 1842 ac ar y mapiau Ordnans o 1920 ymlaen sy'n gywir.[1]

Arferai Gwernafalau fod yn fferm tua 25 acer o faint ar Ystad Glynllifon. Yn fwy diweddar mae wedi bod yn gartref i Osborn Jones a Glesni Jones, ac yno sefydlwyd stiwdio sain oedd yn rhagflaenydd i stiwdio Cwmni Sain yn Llandwrog.[2]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.180
  2. Gweler erthyglau Cof y Cwmwd ar Osborn Jones, Glesni Jones a Chwmni Sain