Gallt y Pryf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:37, 14 Mawrth 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodir Gallt y Pryf fel ardal goediog ger Ffrwd mewn cornel o parc Glynllifon ar fapiau Ordnans 1920 a 1959, ond mae'n debygol fod tŷ o'r enw hwn ar y safle unwaith. Mae'n debyg mai cyfeirio at lechwedd goediog y mae'r elfen gyntaf, gallt, ond beth am y pryf? Os mai cyfeirio at drychfilod mae'r enw, byddai rhywun yn disgwyl gweld y lluosog, pryfed. Mae ystyr arall i pryf, sef anifail gwyllt cymharol fychan, megis llwynog, ysgyfarnog neu garlwm. 'Pryf llwyd' hefyd y gelwir mochyn daear gan rai yn Arfon. Cyfeirir at y fan fel Galltypru ym 1769 (Casgliad Newborough, Glynllifon) a cheir sillafiadau pur amrywiol yn asesiadau'r Dreth Dir. Gallt y Prŷf a geir ar fap Ordnans 1959.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.161-2.