Gwernafalau
Mae annedd Gwernafalau i'r gogledd o bentref Llandwrog. Ystyr yr elfen gyntaf gwern yw tir corsiog a gwlyb lle mae coed gwern (alder) yn tyfu. Fodd bynnag, coed afalau oedd yn y wern hon ac mae'n debygol mai afalau surion yn hytrach nag afalau bwyta oeddynt. Cofnodwyd Gwern y fale ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ac mewn sawl ffynhonnell arall, ac mae'r fannod y yn y rhain yn gamarweiniol iawn. Gwern afalau, fel y nodwyd yn y Rhestr Pennu Degwm ym 1842 ac ar y mapiau Ordnans o 1920 ymlaen sy'n gywir.[1]
Cyfeiriadau
1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.180