Odyn galch Tŷ Coch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:27, 27 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ceir gweddillion odyn galch sylweddol ar dir fferm Tŷ Coch, oddeutu hanner ffordd rhwng Clynnog ac Aberdesach. Mae'r adfeilion wedi eu lleoli led cae o'r traeth ac mae llwybr cyhoeddus o'r traeth i ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon yn mynd heibio iddynt. Saif y muriau'n bur uchel o hyd ac mae'r lle tân ar gyfer llosgi'r calch a'r simnai uchel yn dal yn weddol gyfan. Defnyddir y fan fel math o gorlan ar gyfer defaid ar hyn o bryd. Nid yw'r odyn wedi ei nodi fel y cyfryw ar y Map Ordnans Explorer cyfredol, ond mae'r enw Borth, sef hen Borth Clynnog, wedi ei nodi ar y map gerllaw safle'r odyn.