Plas Tan Dinas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:16, 22 Chwefror 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Plas-tan-dinas yn westy gwledig sylweddol a safai nid nepell o fryngaer Dinas Dinlle. Cafodd ei adeiladu rywbryd cyn 1888.[1] Adeilad deulawr ydoedd, gyda rendr ar y waliau. Roedd feranda ar bob ochr iddo. Yn ystod y 1970au bu'n gyrchfan lwyddiannus ar gyfer llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol, ond aeth y busnes i lawr a chwalwyd yr adeilad gan y perchnogion tua diwedd y 1990au. [2]

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 6" i'r filltir, 1888
  2. Gwefan Coflein [1], cyrchwyd 19.1.2024; Gwybodaeth leol