Odyn galch Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:01, 22 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Odyn Galch Trefor yn weithredol tua 1900 pen enwyd yr odyn ar fap Ordnans; roedd yr un adeilad yno ym 1888 ond heb ei enwi ar y map honno[1]. Gan fod odynau'n adeiladau bur nodedig o ran siâp a dyluniad, gellid fod yn weddol siŵr felly ei fod yn weithredol erbyn y dyddiad hwnnw. Safai dros yr afon ym mhen eithaf Stryd Farren, ym mhentref Trefor lle roedd cangen o dramffordd y chwarel yn gorffen.[2] Dichon yn wir mae'r dramffordd a roddodd fodolaeth i'r odyn yn y lle penodol hwnnw, gan fod modd cludo'r galchfaen i'w llosgi yn syth o'r llong - a byddai calch (ynghyd â glo) yn ddefnyddiol fel llwyth mewn llongau a fyddai wedi dod yn wag fel arall i nôl y wenithfaen. Ni pharhaodd yn hir fodd bynnag. Erbyn 1914, roedd yr odyn wedi ei dymchwel a chodwyd rhes o dai ar y safle.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 6" i'r filltir 1888
  2. Map Ordnans 25" i'r filltir, 1899
  3. Map Ordnans 6" i'r filltir, 1914