Odyn galch Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:01, 21 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Odyn Galch Trefor yn weithredol tua 1900. Safai dros yr afon ym mhen eithaf Stryd Farren, ym mhentref Trefor lle roedd cangen o dramffordd y chwarel yn gorffen.[1] Dichon yn wir mae'r dramffordd a roddodd fodolaeth i'r odyn yn y lle penodol hwnnw, gan fod modd cludo'r galchfaen i'w llosgi yn syth o'r llong - a byddai calch (ynghyd â glo) yn ddefnyddiol fel llwyth mewn llongau a fyddai wedi dod yn wag fel arall i nôl y wenithfaen. Ni pharhaodd yn hir fodd bynnag. Erbyn 1914, roedd yr odyn wedi ei dymchwel a chodwyd rhes o dai ar y safle.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 25" i'r filltir, 1899
  2. Map Ordnans 6" i'r filltir, 1914