Bryn-naid-hir

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:16, 16 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tŷ rhwng Y Groeslon a Charmel yw Bryn-naid-hir. Fe'i gelwir yn 'Bryn-neidar' ar lafar, ond 'Bryn-naid-hir' yw'r ffurf ysgrifenedig fel rheol - a Brynnaidhir, heb gysylltnodau, yw'r ffurf a geir yng Nghyfeiriadur y Cod Post presennol. Cofnodwyd Brynyneidr ym 1769 (Casgliad Newborough - Glynllifon), ond ceir amrywiadau ar Bryn-naid-hir mewn ffynonellau megis asesiadau'r Dreth Dir rhwng 1770 a 1774. O ran datblygiad llafar naturiol byddai'n hawdd i Bryn-naid-hir droi yn Bryn-neidr. Efallai nad oedd yr elfen 'neidr' yn enw tŷ yn gymeradwy gan rai ac y gwnaed ymgais i'w newid i 'Bryn-naid-hir' - gan efallai greu rhyw stori onomastig am ryw naid hir nodedig i egluro'r enw. Ar y llaw arall gallai gweld neidr neu nadroedd ar ddarn o dir beri i enw'r creadur hwnnw gael ei gysylltu â'r lle, yn arbennig os gwelwyd rhyw neidr bur fawr a thrawiadol yno rhywdro. 1

Cyfeiriadau

1. Ceir ymdriniaeth helaeth ar yr enw hwn yn: Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.48-9.