Bryn Trallwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:26, 16 Chwefror 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Bryn Trallwyn Isaf a Bryn Trallwyn Uchaf yn anheddau ar gyrion pentref Carmel. Ceir yr enw hefyd yn Rhesdai Trallwyn yn yr un ardal. Dywed Glenda Carr nad yw'r ffurf trallwyn i'w chael yn Geiriadur Prifysgol Cymru, ond fe geir y ffurf trallwn ynddo, fel amrywiad ar trallwng [fel yn enw'r dref Y Trallwng (Welshpool)]. Ystyr trallwng yw pwll o ddŵr budr neu dir corsiog. Daw o tra + llwnc neu llwng, sef man gwlyb sy'n llyncu dŵr, gyda'r tra yn cryfhau'r ystyr - sef lle gwlyb iawn. Fe allai'r ffurf tra a llwyn olygu 'llwyn mawr', ond nid yw hynny'n gwneud llawer o synnwyr, ac mae'n debygol fod trallwn wedi troi'n trallwyn gydag amser oherwydd ymgais fwriadol gan rywun/rywrai i 'gywiro' ffurf roedden nhw'n credu oedd yn anghywir.1

Cyfeiriadau

1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.52-3.