South Croke

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:55, 4 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

South Croke oedd yr hen enw Saesneg am geg Afon Menai wrth iddi ymagor i Fae Caernarfon. Ers dwy ganrif a mwy, fodd bynnag, mae pawb wedi defnyddio'r enw Abermenai. Nid oedd William Morris yn arddel yr enw ar ei siartiau morwrol a wnaed ym 1748. Un o'r enghreifftiau olaf o ddefnyddio'r enw oedd ym 1808, pan soniodd ysgrifennwr di-enw am South Croke.[1] Roedd yr awdur hwnnw, mae'n amlwg o'r hyn sydd ganddo i'w ddweud, wedi copïo'r ffeithiau o hen waith gan John Leland, Yr Hynafiaethydd Brenhinol, a ysgrifennwyd tua 1539, ac a gyhoeddwyd gan Lucy Toulmin Smith, sef Leland's Itinerary in Wales.[2] Ceir tystiolaeth bellach mai enw a ddefnyddid yn y 16g. yn y cyfeiriad at South Croke mewn rhestr o fannau lle gallai llongau ddod i'r lan, dyddiedig Rhagfyr 1524.[3]

Mae'n bosibl mai South Croke yn cyfeirio at y penrhyn tywodlyd ar ochr Ynys Môn i'r aber, gan fod y poenrhyn â siap tebyg i ffon bugail, neu crook yn Saesneg. Serch hynny, ceir y term ei ddefnyddio ar gyfer y darn culaf o Afon Menai, gyferbyn â Belan.

=Cyfeiriadau

  1. North Wales Gazette, 14.7.1808, t.4
  2. Lucy Toulmin Smith, The Itinerary in Wales of John Leland in or about 1536-1539, (Llundain, 1906). Mae'r darn dan sylw i'w weld ar dud. 80
  3. 'Henry VIII: December 1524, 26-31', yn Letters and Papers, Foreign and Domestic, Henry VIII Cyf. 4, 1524-1530, gol. J S Brewer (Llundain, 1875), t. 406-430; dogfen 973. British History Online [1] adalwyd 4.2.2024