South Croke

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:58, 3 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

South Croke oedd yr hen enw Saesneg am geg Afon Menai wrth iddi ymagor ar Fae Caernarfon. Ers dwy ganrif a mwy, fodd bynnag, mae pawb wedi defnyddio'r enw Abermenai. Nid oedd William Morris yn arddel yr enw ar ei siartiau morwrol a wnaed ar ganol y 18g. Un o'r enghreifftiau olaf o ddefnyddio'r enw oedd ym 1808, pan soniodd ysgrifennwr di-enw am South Croke.[1]

=Cyfeiriadau

  1. North Wales Gazette, 14.7.1808, t.4