Lisi Jones, Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:59, 3 Chwefror 2024 gan 51.7.72.82 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Lisi Jones, Llandwrog (190?) - 1993)

Merch i chwarelwr yn Chwarel y Cilgwyn.

Teulu

Roedd ganddi gysylltiadau teuluol agos â’r Prifathro R. Tudur Jones, Prifathro Coleg Bala Bangor, a Bob Owen, Croesor.

Bardd

Dysgodd gynganeddu yn ifanc am fod Yr Ysgol Farddol yn ei chartref. Bu’n aelod o un o dimau cynnar Ymryson y Beirdd yn y 1950au. Enillodd ar y Cywydd Ymgom rhwng y Trethdalwr a’r Casglwr Trethi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr yn 1948. Yr englyn oedd ei hoff gyfrwng.

Gwaith

Bu’n gweini yn Lerpwl am gyfnod byr. Dan ddylanwad Mudiad Addysg y Gweithwyr a Chyrsiau Haf mewn amrywiol Golegau cafodd swydd yn Swyddfa Addysg Sir Gaernarfon a’i phenodi yn Ysgrifenyddes Trefnydd Ieuenctid Sir Gaernarfon – Goronwy Roberts hyd at 1945 pan etholwyd ef yn A.S. ac wedyn I.B. Griffith. Byddai hefyd yn cyfieithu i’r Cyngor

Cyhoeddiadau

Swper Chwarel Cyfrol o farddoniaeth Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1974

Grug Hydref Ail gyfrol o farddoniaeth Cyhoeddiadau Mei tua 1978

Dwy Aelwyd Cyhoeddiadau Mei, 1984 Atgofion plentyndod a glasoed a chysylltiadau’r awdur â dwy aelwyd a dwy ardal – Y Fron (Dyffryn Nantlle) a Rhos-lan (teulu R. Tudur Jones). Bu farw cyn cyhoeddi rhagor o atgofion.