Dinas Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:49, 20 Ionawr 2018 gan Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pentref ar yr arfordir rhwng Caernarfon a Phen Llŷn, yng nghwmwd Uwchgwyrfai yw Dinas Dinlle. Mae'n leoliad o bwysigrwydd hanesyddol, a cheir cyfeiriadau hynafol i’r traeth yn cynnwys ei bryngaer. Ysgrifennodd y teithiwr Thomas Pennant am Dinas Dinlle:

.....ar ymyl morfa eang ar lan y môr. Ar y pen uchaf, y mae gwastadedd eang yn cael ei amgylchu gan fur ryfeddol wedi ei wneuthur, yn ôl pob ymddangosiad, o’r pridd a grafwyd allan o’r gwastadle.

Y mae cofnod o’r lle hwn wedi datblygu fel lleoliad twristaidd cyn belled â’r 1900au cynnar. Erbyn tua 1905 roedd caffi a bwthyn aros yno, yn ogystal â Gwesty’r ‘Caernarvon Bay’. Ceir disgrifiad manwl o’r lle hwn tua 1700au yn ‘Numismata Dinllaeana’, gan Richard G. Farrington.

Ffynonellau

  • Williams, W.G. Dinas Dinlle Cymru, Cyf. 29, 1905
  • Williams, Ifor Dinlleana Transactions of the Anglesey Antiquarian Society, 1948.