'Drwy rinwedd dadleuaeth' - Carol gan Eben Fardd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:13, 9 Ionawr 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgrifennodd Eben Fardd (Ebenezer Thomas - 1802-1863) garol blygain hynod gyfoethog yn dechrau â'r geiriau 'Drwy rinwedd dadleuaeth'. Mae wedi ei chofnodi'n ddiweddar yn y gyfrol Seiniwn Hosanna (Plygain.org, 2022), sef casgliad o garolau plygain Cymraeg wedi'i olygu gan Arfon Gwilym a Sioned Webb. Mae carol Eben Fardd yn gyforiog o gyfeiriadau ac ymadroddion Beiblaidd fel y gwelir ac mae wedi ei saernïo'n eithriadol o grefftus gyda'i chynganeddion a'i hodlau mewnol grymus. Mae'n werth ei chofnodi yn Cof y Cwmwd:

  Drwy rinwedd dadleuaeth, eiriolaeth yr Iawn,
  Moliannu Duw'r nefoedd yn gyhoedd a gawn,
  O deuwn i'w dŷ a lleisiwn yn llu
  Mewn cariad gwir frawdol i'w ganmol yn gu. 
  Am eni'r Iachawdwr, y Prynwr mewn pryd,
  Yn Geidwad i ddynion, abwydion y byd. 
  Diolchwn, da yw, am fod yma'n fyw
  I gofio babandod a dyndod Mab Duw.
  Cyn gwawriad naturiol wybrennol ryw bryd
  Llewyrchai gwawr nefol arbedol i'r byd,
  Sef gwawr haul cyfiawnder yn nyfnder y nos
  I arwain rhai budron i'r ffynnon o'r ffos.
  Yr Iesu, o'i ras, ogwyddai i le gwas
  Pan ddaeth yn dlawd arno i'n ceisio, rai cas.
  Ni feddai Efe un llys yn y lle,
  Na gwely na cherbyd, Anwylyd y Ne'. 
  Clodforwn, clodforwn, Duw folwn hyd fedd,
  Creawdwr, Cynhaliwr, a Rhoddwr gwir hedd.
  Ei drigfa 'mysg dynion, rai noethion, a wnaeth
  A'r dynion i undod y duwdod a ddaeth;
  Fe anwyd mewn pryd y baban i'r byd,
  Gogoniant y dwthwn a gofiwn i gyd.
  Er gogan a gwawd mae'n frenin, mae'n frawd;
  Hwn i bechaduriad yn geidwad a gawd.
  Angylion dihalog (tra enwog ar 'u tro)
  Fu'n seinio moliannau hyd fryniau y fro
  Am eni'r Iachawdwr yn Ddyddiwr i ddyn,
  Yn noddfa mewn trallod, yn gyfaill a lŷn;
  A ninnau yn awr a folwn yn fawr - 
  Cydseinied y nefoedd a lluoedd y llawr:
  Tra bo yn y byd, O rhoddwn ein bryd
  Ar ddilyn yr Iesu, a'i garu i gyd.