'Drwy rinwedd dadleuaeth' - Carol gan Eben Fardd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:54, 9 Ionawr 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgrifennodd Eben Fardd (Ebenezer Thomas - 1802-1863) garol blygain hynod gyfoethog yn dechrau â'r geiriau 'Drwy rinwedd dadleuaeth'. Mae wedi ei chofnodi'n ddiweddar yn y gyfrol Seiniwn Hosanna(Plygain.org, 2022), sef casgliad o garolau plygain Cymraeg wedi'i olygu gan Arfon Gwilym a Sioned Webb. Mae carol Eben yn gyforiog o gyfeiriadau ac ymadroddion Beiblaidd fel y gwelir ac mae wedi ei saernïo'n eithriadol o grefftus gyda'i chynganeddion a'i hodlau mewnol grymus. Mae'n werth ei chofnodi yn Cof y Cwmwd:

  Drwy rinwedd dadleuaeth, eiriolaeth yr Iawn,
  Moliannu Duw'r nefoedd yn gyhoedd a gawn,
  O deuwn i'w dŷ a lleisiwn yn llu
  Mewn cariad gwir frawdol i'w ganmol yn gu. 
  Am eni'r Iachawdwr, y Prynwr mewn pryd,
  Yn Geidwad i ddynion, a bywyd i'r byd. 
  Diolchwn, da yw, am fod yma'n fyw
  I gofio babandod a dyndod Mab Duw.