'Drwy rinwedd dadleuaeth' - Carol gan Eben Fardd
Ysgrifennodd Eben Fardd (Ebenezer Thomas - 1802-1863) garol blygain hynod gyfoethog yn dechrau â'r geiriau 'Drwy rinwedd dadleuaeth'. Mae wedi ei chofnodi'n ddiweddar yn y gyfrol Seiniwn Hosanna(Plygain.org, 2022), sef casgliad o garolau plygain Cymraeg wedi'i olygu gan Arfon Gwilym a Sioned Webb. Mae carol Eben yn gyforiog o gyfeiriadau ac ymadroddion Beiblaidd fel y gwelir ac mae wedi ei saernïo'n eithriadol o grefftus gyda'i chynganeddion a'i hodlau mewnol grymus. Mae'n werth ei chofnodi yn Cof y Cwmwd:
Drwy rinwedd dadleuaeth, eiriolaeth yr Iawn,
Moliannu Duw'r nefoedd yn gyhoedd a gawn, O deuwn i'w dŷ a lleisiwn yn llu Mewn cariad gwir frawdol i'w ganmol yn gu. Am eni'r Iachawdwr, y Prynwr mewn pryd, Yn Geidwad i ddynion, a bywyd i'r byd. Diolchwn, da yw, am fod yma'n fyw I gofio babandod a dyndod Mab Duw.