Capten Robert Thomas, Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:50, 1 Rhagfyr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Robert Thomas (1843-1903) yn forwr ac yn gapten ar longau mawr ddiwedd yr oes hwylio. Hanai o bentref Llandwrog, o deulu digon ddistadl, yn fab i saer coed, William Thomas a'i wraig Ruth, Tanlan. Cychwynodd ei yrfa ar y môr fel bachgen cabin ar un longau'r teulu Davies, Porthaethwy. Aeth ymlaen i fod yn un o gapteiniaid llongau hwylio mawr mwyaf llwyddiannus. Fo oedd yn dal y record am hwylio o Brydain i San Francisco ac yn ôl yn ei long y Merioneth. Bu'n gapten hefyd ar un arall o longau enwocaf y cyfnod yng Ngogledd Cymru, yr Afon Alaw.[1] Llongau mawr oedd y rhain, ac er eu bod yn perthyn i Ogledd Cymru, hwylient fel arfer o ddociau Lerpwl, ac i'r ddinas honno aeth Robert Thomas i fyw. Diweddodd ei oes yn San Francisco yn 60 oed wedi capteinio ei long o gwmpas yr Horn.[2]

Mae cofiant iddo wedi ei gyhoeddi, sef Aled Eames, Ship Master, (Caernarfon, 1980).

Cyfeiriadau

  1. ↑ Emrys Hughes ac Aled Eames, Porthmadog Ships, (Caernarfon, 1975), t.122
  2. ↑ Lewis Lloys, The Port of Caernarfon, 1793-1900,(Caernarfon, 1989), t.122