Brêc Bach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:43, 1 Rhagfyr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Darn o graig naturiol sy'n mynd i lawr yn weddol isel at y môr ar Drwyn y Tâl (neu Glogwyn y Morfa) yn Nhrefor yw'r Brêc Bach. Mae'n lle poblogaidd i bysgotwyr. Daw mecryll yn nes i'r lan at ddiwedd y tymor (tua Awst/Medi) ac mae modd eu dal oddi ar y clogwyn. Hefyd daw rhai yno i bysgota am ddraenogod y môr (sea bass) a morleisiod. Galwyd y graig yn Brêc Bach gan fod Brêc (breakwater) arall dipyn mwy i'w chael ym mhen dwyreiniol y clogwyn, nid nepell o draeth Trefor. Adeiladwaith o goncrid yw'r brêc yma a godwyd i atal cerrig rhag cael eu cludo gyda'r llanw at y cei pan oedd y chwarel yn gweithredu a llawer o longau'n galw yno am lwythi o gerrig. Mae dwy ran i'r Brêc, gyda'r rhan uchaf, ym môn y clogwyn, rai troedfeddi'n uwch na'r rhan is, sy'n ymestyn rai llathenni ymhellach allan i'r môr. Ffurfiwyd y Brêc drwy suddo hen ysgarff o'r enw Mary Foxley ac yna ei llenwi â choncrid.[1] Er ei bod wedi wynebu stormydd Bae Caernarfon ers degawdau lawer, mae'r Brêc yn ymddangos fel pe bai mewn cyflwr pur dda o hyd.

Ni ddylid cymysgu'r enw efo'r enw a roddwyd i'r cerbyd (sef "brêc") a redai ar ddyddiau Sadwrn o bentref Rhostryfan i Gaernarfon!

Cyfeiriadau

  1. Elfed Gruffydd, Ar Hyd Ben 'Rallt, (Llyfrau Llafar Gwlad, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t.11.; Gwybodaeth bersonol