Felinwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:29, 20 Ionawr 2018 gan Carrog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Felinwnda yw ardal fechan ym mhlwyf Llanwnda, ble mae Ysgol Gynradd Felinwnda, a Chanolfan Bro Llanwnda heddiw.

Y Felin

Gyferbyn a'r ysgol, fe welwn y felin sydd wedi ei throi yn dy heddiw. Melin Pengwern oedd yr enw cynharach. Rhedai'r rhod ddwr y tu cefn i'r felin o Afon Rhyd.

Ysgol

Codwyd ysgol gynradd yn 1896 (angen cywiro) yn dwyn yr enw Ysgol Dinas, a'i phrifathro cyntaf oedd [Gilbert Williams] Rhostryfan. Hediw Ysgol Felinwnda yw, gyda tau 25 i 30 o blant. Mae'r ysgol wedi uno efo Ysgol Llandwrog.


Evan Jones

Y melinydd pan agorwyd yr ysgol oedd Evan Jones. Roedd yn falch o weld ysgol newydd ger llaw, ond fe oedd yna adegau pan gollai ei dymer yn llwyr pan fyddai plany=t yn mynd i'w ardd i ddwyn eirin. [1] o Evasn Jones yn rhuthro i mewn i'r ysgol yn bytheirio'r plant am ddwyn eirin. Gorchymwyd y plant i beidio mynd ar gyfyl gardd Evan Jones gan y prifathro. Beth amser wedyn daeth y prifathro allan o'r ysgol a gweld y plant yn y coed eirin, ac Evan Jones yn eistedd yn eu gwylio. Roedd y plant wedi cael caniatad i gael yr eirin, roedd Evan Jones wedi tanseilio awdurdod y prifathro. Bu farw Evan Jones yn 1934 (angen cywiro), fe godwyd arian gan gyn ddisgyblion yr ysgol er mwyn talu am garreg fedd iddo, mae'r fedd ym mynwent eglwys Sant Gywndaf, Dinas, Llanwnda gyda'r ffaith yma wedi ei nodi arni.

Canolfan Bro Llanwnda

Codwyd canolfan gymunedol y drws nesaf i'r ysgol yn 2006, canolfan sydd yn gwqasanaethu ardal eang o Lanfaglan i Landwrog. Mae'r ysgol yn gwneud defnydd o'r ganolfan, ac mae [Cymdeithas Hanes Tair Llan]teitl y cyswllt leol wedi dechrau a Chlwb garddio.

Gwaith

Yng nghefn y ganolfan ceir iard Menai Tractors a safle loriau sydd yn cyflogi dro ugain o bobl.

[2]

  1. Ceir cofnod yn nodiadau Gilbert Williams
  2. Gwybodaeth Lleol