Tafarn y Prince Llewelyn
Safai Tafarn y Prince Llewelyn ar ochr y lôn sydd yn arwain at bentref Tal-y-sarn o ganol Pen-y-groes, nid nepell o'r hen dŷ tyrpeg. Fe'i hadeiladwyd ym 1867 gan J. Thomas y Parc ar dir a brydleswyd gan Ystad Bryncir. Erbyn 1869, roedd gan y Prince Llewelyn enw o fod yn lle a ganiateid i ddynion yfed gormod er eu lles eu hunain. Y flwyddyn honno, dirwywyd y trwyddedai, John Jones, am ganiatáu medd-dod yn y dafarn.[1]
Oes fer oedd ganddi, gan i'r ynadon dynnu ei thrwydded yn ôl ym 1903. Erbyn hynny, roedd wedi mynd yn eiddo i'r bragwyr Greenall Whitley.[2] Nid syndod oedd i'r ynadon fynnu cau'r dafarn - roedd hynny yng nghanol cyfnod mwyaf llewyrchus y mudiad dirwest, ac ar ben hynny, roedd y trwyddedai, William Hughes, yn cael trafferth efo'r diod gadarn. Fe'i dirwywyd gan ynadon Pwllheli, er enghraifft, ym 1900 am fod yn chwil ac yn afreolus yn y dref honno.[3] Digwyddodd yr un peth fis Tachwedd yr un flwyddyn, a hynny yn yr un dref.[4] Dyddiau cyn i'r Llys Drwyddedu gael ei chynnal, dirwyodd ynadon Caernarfon William Hughes am fod yn chwil yn un o dafarnau'r dref.[5] Prin bod rhaid i'r ynadon feddwl ddwywaith am ei addasrwydd ar gyfer cadw tŷ cwrw! Ac wedi cau'r dafarn, roedd William Hughes yn dal i lychu ei big; ym 1908, fe'i cafwyd yn chwil ac yn afreolus yng Nghaernarfon.[6]