Tafarn y Prince Llewelyn
Safai Tafarn y Prince Llewelyn ar ochr y lôn sydd yn arwain at bentref Tal-y-sarn o ganol Pen-y-groes, nid nepell o'r hen dŷ tyrpeg. Fe'i hadeiladwyd ym 1867 gan J. Thomas y Parc. Oes fer oedd ganddi, gan i'r ynadon dynnu ei thrwydded yn ôl ym 1903. Erbyn hynny, roedd wedi mynd yn eiddo i'r bragwyr Greenall Whitley.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwalia, 10.3.1903, t.8