Tafarn y Prince of Wales
Safai Tafarn y Prince of Wales ar ochr y lôn sydd yn arwain at bentref Tal-y-sarn o ganol Pen-y-groes, nid nepell o'r hen dŷ tyrpeg.
Ym 1871, John Griffith, gŵr lleol 33 oed a'i wraig Jane, 24 oed, oedd yn cadw'r dafarn. Roedd y busnes yn ddigon lewyrchus iddynt gyflogi dwy ddynes fel gweinyddesau, a chadwyd dau lodjer.[1]
Erbyn 1903, roedd y dafarn ym meddiant cwmni Greenall Whitley, ond er hynny, penderfynodd yr ynadon yn y Sesiwn Drwyddedu i beidio ag adnewyddu'r drwydded, a dichon mai yn y flwyddyn honno y caewyd y dafarn.[2]