Tafarn y Boar's Head
Tafarn ger pont dros Afon Llyfni oedd Tafarn y Boar's Head ar ochr y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli, a hynny ym mhentref Pontlyfni. Roedd yn sefyll gyferbyn â'r siop hen bethau presennol, ac (yn fwy heriol efallai!) gyferbyn â chapel Bedyddwyr y pentref.
Nid yw'n sicr pryd yr agorwyd y dafarn. Mae adeilad yn cael ei ddangos ar y safle ar fap degwm 1841, ac fe nodir enw'r dafarn ar olygyddiad cyntaf y map Ordnans, 1888.
Caewyd y dafarn, mae'n debyg, ym 1916 wedi i'r ynadon yn Llys Trwyddedu Gwyrfai wrthod adnewyddu'r drwydded.[1] Defnyddid yr adeilad am flynyddoedd fel swyddfa bost Pontlyfni, ond mae'r adeilad bellach wedi ei chwalu.
Cyfeiriadau
- ↑ Llangollen Advertiser, 10.3.1916, t.2