Ian Parri

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:21, 6 Hydref 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Newyddiadurwr ac awdur a fagwyd ym Mhen-y-groes yw Ian Parri.

Bu'n newyddiadurwr a cholofnydd gyda'r Herald Cymraeg, Y Cymro, y Daily Post a BBC am oddeutu 20 mlynedd. Yn dilyn ei yrfa newyddiadurol bu ef a'i briod yn cadw tafarn Y Plu yn Llanystumdwy am rai blynyddoedd, ac yna tafarn Bryn Hir yng Nghricieth. Mae'n gweithredu hefyd fel cyfieithydd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi cyhoeddi tri o lyfrau taith. Y cyntaf yw Nid yr A470 (2013), sef taith a wnaeth yn ei gar o Landudno i Gaerdydd, gan osgoi'r A470, sy'n cysylltu'r ddwy dref hynny. Mae ei daith yn dilyn ffyrdd llai a mwy diarffordd gan ymweld â nifer o fannau o ddiddordeb ar y ffordd a gwau tipyn o'u hanes i'r stori yr un pryd. Cyhoeddwyd yr ail gyfrol, O Gyffordd i Gyffordd yn 2016. Ynddi mae'r awdur yn dechrau a gorffen ei daith trên yn yr enwog Gyffordd Dyfi (neu Dyfi Jyncsion fel mae'n fwy adnabyddus). Mae'n mynd ar drenau o gyffordd i gyffordd drwy rannau o Gymru a'r gororau gan ymweld â nifer o fannau adnabyddus (a llai cyfarwydd) ar y ffordd. Ei gyfrol ddiweddaraf, a helaethaf, yw Gwyddelod: Taith at ein Cefndryd yn y Gorllewin (2023). Ynddi ceir hanes taith ddeufis a wnaeth ef a'i briod ar hyd arfordir gorllewinol Iwerddon (Llwybr yr Iwerydd Gwyllt) - llwybr sydd oddeutu 1500 o filltiroedd. Ceir ynddi ddisgrifiadau o'r golygfeydd ysblennydd, talpiau da o hanes a sylwadau am rai cymeriadau - dymunol ac annymunol - y ddaethant ar eu traws.