Y Brodyr Francis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:00, 6 Hydref 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis (Y Brodyr Francis).

Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Roedd y tad, a hanai'n wreiddiol o Dal-y-sarn yn swyddog yn chwarel y Moelfre, Cwm Pennant ac yn gerddor da. Roedd eu mam - Mair Alaw - yn gantores o Nantlle. Bu farw'r ddau riant yn ifanc, a mudodd y teulu bach oddi yno i'r Clogwyn Brwnt , Drws-y-coed at eu taid, yna i'r Gelli-ffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn Chwarel Glan'rafon, Rhyd-ddu, cyn symud i Chwarel Pen-yr-orsedd.. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au a hynny i neuaddau a chapeli llawn. Fe wnaethant wrthod cytundeb gyda chwmni recordiau HMV yn y 1920au, gan nad oedd y cwmni'n fodlon derbyn cyfeilydd arferol y ddeuawd, sef Bob Owen, gan fynnu bod y brodyr yn canu i gyfeiliant telyn. Oherwydd hyn, nid oes recordiad ohonynt yn bodoli. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ar 4 Mawrth 1927, i ddathlu Gŵyl Ddewi. Darlledwyd y rhaglen gan wasanaeth radio cenedlaethol Iwerddon, Raidió Éireann, a oedd ond wedi ei sefydlu ddwy flynedd ynghynt ym 1925. Ymateb oedd hyn i brinder rhaglenni Cymraeg o unrhyw fath ar wasanaeth y BBC ac roedd elfen wleidyddol i'r gweithgaredd. Y Brodyr Francis oedd sêr y cyngerdd cyntaf, a daeth y cyngherddau hyn o Ddulyn yn achlysur misol am gyfnod, ar nos Wener gyntaf y mis.[1]

Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Roedd Griffith (1876-1936) yn fardd yn y mesurau caeth a rhydd, a chyhoeddwyd ei waith Telyn Eryri gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Cyfansoddodd ddigon o gerddi ar gyfer ail gyfrol ond ni chyhoeddwyd mohoni. Owen (1879-1936) oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.

Bu'r ddau farw yr un flwyddyn: Owen ar 6ed Ebrill 1936, (fe'i claddwyd ym mynwent Capel Salem (MC), Llanllyfni) a Griffith ar 13 Mehefin 1936, (fe'i claddwyd ef ym Mynwent Macpela, Pen-y-groes).[2]

Cyfeiriadau

  1. Robert Wyn, "Y Brodyr Francis", Lleu 540 (Mai 2022), t.20
  2. Y Casglwr, Y Casglwr; rhan 1 a Y Casglwr; rhan 2; Y Bywgraffiadur Ar-lein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru