John Llywelyn Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:35, 6 Hydref 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd John Llywelyn Roberts yn fardd ac yn undebwr. Ef oedd ysgrifennydd Pwyllgor y Di-waith Dyffryn Nantlle[1] ar ddiwedd y 1950au.

Fel bardd, dywedir mai ef oedd un o'r ychydig yn Nyffryn Nantlle ynghanol yr 20g i farddoni'n helaeth ac yn gyhoeddus, gan iddo anfon llawer o'i waith i'r Herald Cymraeg. Ni chyhoeddodd ddim o'i waith ar ffurf cyfrol, fodd bynnag.[2]. Ef oedd bardd cadeiriol Eisteddfod Dyffryn Conwy, Llanrwst ym 1971. Enillodd gystadleuaeth y soned yn yr un eisteddfod.[3]Mae copi o gasgliad o'i waith, mewn teipysgrif gyda rhai cerddi mewn llawysgrifen, i'w gael yn y Llyfrgell Genedlaethol, gyda'r gwaith yn perthyn i'r cyfnod rhwng 1942 a 1974.[4]

Cyfeiriadau

  1. Gwyn Edwards, Pwyllgor y Di-waith Dyffryn Nantlle, Llafur, Cyf.5, 1, tt.29-35, [1]
  2. Gwybodaeth lafar a gafwyd yn lleol
  3. North Wales Weekly News, 22.6.1971, t.17
  4. LlGC, NLWFacs 432