Alwyn Thomas
Roedd Alwyn Thomas (1910->1987), awdur llyfrau plant, yn hanu o dreflan Tan'rallt, plwyf Llanllyfni. Roedd yn unig fab Griffith R. (g.1874) a Jannet E. Thomas (g.1875). Hanai ei dad, oedd yn greigiwr yng Nghwarel Dorothea, o Gaernarfon, a'i fam o Dal-y-sarn.[1]
Enw ei gartref oedd Arfryn, sef 15 Tan'rallt. Roedd yn gefnder i Mathonwy Hughes.[2]
Tua 1938 bu'n fyfyriwr yn y Coleg Diwinyddol Aberystwyth gan gael ei ordeinio'n weinidog ar ddechrau'r 1940au.[3]
Efallai mai ei lyfr mwyaf cyfarwydd oedd Teulu'r Cwpwrdd Cornel', y cafwyd pedwar argraffiad ohono rhwng 1950 a 1993. Cyhoeddodd dros ddwsin o lyfrau plant, rhai o natur foesol a chrefyddol, ac ambell i lyfr arall. Ef oedd darlithydd Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes ym 1976, a'i testun oedd Tyfu mewn Cymdeithas.[4]