Gwasg Dwyfor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:04, 22 Medi 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwmni argraffu sydd wedi ei leoli ar Stad Ddiwydiannol Pen-y-groes yw Gwasg Dwyfor Cyfyngedig.

Sefydlwyd y cwmni ym mis Hydref 1980 (nodir iddo gael ei ymgorffori'n gwmni ar 21/10/1980). Mae wedi bod yn gwmni argraffu prysur a sylweddol bellach ers dros ddeugain mlynedd gan gyflogi nifer o bobl fel cysodwyr, dylunwyr ac argraffwyr. Gan ei fod yn gwmni sydd wedi buddsoddi mewn peiriannau modern ac yn gallu darparu gwaith lliw llawn i safon uchel, mae wedi cyflawni contractau agraffu i gwsmeriaid pwysig dros y blynyddoedd. Mae'r cwmni'n ymgymryd ag ystod o waith argraffu - o lyfrau a chyhoeddiadau sylweddol i daflenni a phosteri. Mae gan y cwmni dri chyfarwyddwr, sef Alwyn Ellis (sydd hefyd yn gweithredu fel Ysgrifennydd y cwmni), Dafydd Owen a Maldwyn Peris Roberts.