Gwaith llechi Dorothea

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:34, 18 Medi 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Gwaith llechi Dorothea ar lan Afon Llyfni, hanner ffordd rhwng Pen-y-groes a Llanllyfni, ger Pont Ffatri. Rhannai'r un ffrwd felin â Ffatri wlân Bryn. Mae'r aadeilad yn dal i sefyll er iddo gael ei ailadeiladu'n sylweddol. Yr oedd y gwaith llechi yn Nhŷ Gwyn (fel y gelwid yr adeilad i ddechrau) yn cynhyrchu llechi â fframiau pren arnynt ar gyfer ysgolion. Cynhyrchid cerrig nadd yno yn ogystal ac yn y dyddiau gynt yr oedd yn ganolfan cynhyrchu eirch. Yn ystod y 1860au symudwyd y gwaith i Ffatri Grafog (neu [Gwaith llechi Inigo Jones]] wrth ochr y rheilffordd a oedd newydd ei hagor.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan nantlle.com [1], cyrchwyd 19.9.2023