R. L. Gapper

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:03, 20 Ionawr 2018 gan Mwngrel o Feirion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Robert Lambert Gapper 1896-1984 Llanaelhaearn ac Aberystwyth. Arlunydd medrus oedd RL Gapper ond yn fwy arbennig o lawer roedd o hefyd yn gerflunydd o fri cenedlaethol. Fe'i magwyd mewn tŷ moel, Bryn Hyfryd, gyferbyn ag eglwys Llanaelhaearn. Rhannai'r un Taid a Nain, Henry a Catherine Hughes, Cwm Coryn, Llanaelhaearn, â'i hen Daid oedd yr arlunydd naif y Parchedig Robert Hughes, Uwchlaw'r ffynnon. Gwraig RL Gapper oedd Florence Jones (g.1912), Tŷ'n Coed, Clynnog Fawr, a ganwyd iddynt ddwy ferch a dau fab. Dyma rai o brif weithiau RL Gapper yng Nghymru: 1. Capel Coffa Llyn Celyn. 2. Giât haearn mynwent Llanuwchllyn. 3. Pulpud coffa y bardd Goronwy Owen yn Llanfair Mathafarn Eithaf, Sir Fôn. 4.Cerflun Rhyfel dadleuol ' Y Fam a'i Phlentyn ' sydd yn awr yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth. 5. Y Golomen a'r Beibl a fu ar do Capel Seilo, Aberystwyth, (dymchwelwyd y capel hwn). 6. Panel Derw cerfiedig yn eglwys Llangwyryfon, Ceredigion, sy'n portreadu'r pedwar efengylydd fel creaduriaid, a Christ fel hwrdd mynydd Cymreig.

Fe'i gladdwyd ar bwys eglwys Llanaelhaearn. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma