Hengwm, Clynnog Fawr
Ffermdy ym mhlwyf Clynnog Fawr yw Hengwm.
Cyn diddymu'r mynachlogydd ym 1536 roedd Hengwm yn rhan o faenor fynachaidd Cwm a oedd yn eiddo i Abaty Aberconwy. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y faenor mewn siarter a roddwyd gan Lywelyn Fawr tua 1201, ond mae'n bosibl ei bod yn rhan o'r tir gwreiddiol a roddwyd ganddo i'r abaty ym 1192. Ar ôl diddymu'r mychachlogydd aeth y faenor i ddwylo'r Goron, ac fe roddwyd y tir ar brydles i Syr John Puleston. Fel rhan o drefgordd Cwm, fodd bynnag, arhosai dyletswydd i dalu rhai dirwyon neu ffioedd yn flynyddol i ddeiliaid degwm rheithorol hen Briordy Beddgelert, a disgwyliud i denant Hengwm fynychu Cwrt Beddgelert i dalu'r degymau bob blwyddyn hyd nes i'r drefn degymu gael ei diwygio tua 1836.[1]
Erbyn 1638 roedd Hengwm yn eiddo i William Gruffydd o Gaernarfon a Gruffyth Jones, Castellmarch. Priododd Mary, merch William Gruffydd, â Syr William Williams o'r Faenol. Bu farw Syr William ym 1696, a cheir cyfeiriad at Hengwm yn llyfr rhent Stad y Faenol am y flwyddyn honno. Catrin Siôn oedd enw'r tenant.
Dengys Cofnodion y Dreth Dir (1770-1830) fod nifer o denantiaid wedi bod yn ffermio yn Hengwm yn eu tro: Edward Owen (1779-71); Griffith Edward (1772-83); Griffith Owen (1784-1840); Griffith Robert (1801-02); William Williams (1803); Richard Thomas (1804-1811); Thomas Pritchard (1811-15); Ann Pritchard (1815-1822?); Catherine Pritchard (1820?-30).
Erbyn 1800, roedd y fferm yn eiddo i deulu'r Faenol, ac mae cofnod o gyflwr y fferm y pryd hynny pan oedd Griffith Owen yn denant. Roedd ychydig dros tair acer yn cael ei ddefnyddio i dyfu ceirch, heb fawr o lewyrch, a nodwyd na fyddai fawr o bwynt mewn ceisio troi peth o'r tir pori'n dir âr. Roedd gweddill y tir felly yn cael ei bori. Roedd y ffermdy'n hen, roedd stabl gyda tho gwellt, llaethdy bychan a llofft i'r gweision, cwt ar gyfer cert a chwt tatws, i gyd mewn cyflwr da ac wedi eu toi âllechi. Roedd Griffith Owen hefyd wedi codi beudy o gerrig wedi ei doi gyda gwellt yng Nghae'r Bythod.[2]
Erbyn 1841, fodd bynnag, roedd Humphrey Thomas a'i wraig Rachel a'u saith o blant yn byw yn Hengwm. Dengys Cyfrifiad 1851 fod Humphrey Thomas yn ŵr 44 oed a'i wraig yn 38 oed. Roedd naw o blant ar yr aelwyd erbyn hyn. Roedd Humphrey Thomas yn hen ŵr 74 oed erbyn 1881, a'r plant wedi gadael y nyth, ac eithrio Ellen, a oedd yn 28 oed. Mae'n amlwg bod un o'r plant yn byw yn Lerpwl, gan fod 'Rachel Williams, grand daughter, 10, Visitor, Scholar, Liverpool' yn aros yma. Yn ddiddorol, ym 1877, nodir bod gwr o'r enw William Thomas, Hengwm, yn asiant ar gyfer Odams' Manures[3]; roedd gan Humphrey Thomas fab o'r enw William a aned tua 1846, er ei fod wedi gadael ei gartref erbyh 1871 - dichon ei fod yn defnyddio Hengwm fel man sefydlog lle gellid cysylltu ag ef.
Bu farw Humphrey Thomas cyn 1891, a chyn 1887 mae'n debyg, gan fod gŵr o'r enw John Thomas oedd yn ffermio yn Hengwm y flwyddyn honno, pan gafodd gwŷs i ateb i gyhuddiad ei fod wedi talu rhent am dir pori i'r person anghywir[4]. Mae'n debyg mai mab Humphrey oedd hwnnw oherwydd yr oedd gan Humphrey mab o'r enw John tua'r un oed. Erbyn 1901, fodd bynnag, roedd y denantiaeth wedi newid, gyda gwr o'r enw Robert Jones, 43 oedd, yn ffermio yn Hengwm, ac erbyn 1905, William Davies. Roedd hwnnw newydd ymsefydlu yn Hengwm, ar ôl symud o fferm sylweddol Saethon ym Mhen Llŷn; a Robert Jones wedi symud i ffermio Llwyngwannadl.[5] Erbyn 1911, y ffermwr oedd Owen Jones, 25 oed, a'i wraig Jennie; roeddynt yno ym 1921 hefyd.[6]
Fferm fawr o ran nifer yr aceri oedd Hengwm, rhyw 255 acer i gyd[7]. Roedd y fferm yn ddigon mawr a digon o waith yno i fod angen cyflogi gweision - fel arfer dros y blynyddoedd, cyflogid dau was, rhai ohonynt (mae'n debyg) yn gymeriadau digon brith. Ym 1878, gwyswyd Owen Davies, gwas yn Hengwm am beidio â thalu tuag at gynhaliaeth ei fam oedd "ar y plwyf".
Yn ystod ail hanner y 19g. ac am gyfnod wedyn, roedd Hengwm yn dal i berthyn i Ystad y Faenol, a phan briododd George William Duff-Assheton-Smith, mab yr ystad, ym 1888 aeth John Thomas, tenant Hengwm, ynghyd â thri ffermwr arall lleol oedd yn denantiaid yr ystad, i gynnau coelcerth ar ben y Gaer ar fferm Tyddyn Mawr, a thorri'r geiriau "Priodas Mr A. Smith, 1888" ar ochr y mynydd - a chwifiwyd baneri mawr ar y bedair fferm.[8]
Er gwaethaf yr ymddangosiad cyhoeddus o deyrngarwch tuag at y landlord, fodd bynnag, rhoddwyd Hengwm ynghyd a'r bedair fferm arall yn y cyffiniau, Tyddyn Hir, Tyddyn Mawr ac Ysgubor Fawr, ar werth ym 1890, ond ni werthwyd Hengwm ar ôl i'r swm o £2000 amdani gael ei wrthod yn yr arwerthiant.[9]. Erbyn 1897, roedd y rhent yn £82 y flwyddyn a cheisiwyd gwerthu'r eiddo unwaith yn rhagor gan nodi fod manganîs a mineralau eraill o dan y tir. Methwyd â'i werthu, a cehsiwyd eto ym 1898, pan wrthodwyd cynnig o £2100.[10] Ceisiwyd eto ym 1907, ac eto gwrthodwyd y pris - dim ond £1350 y tro hyn.[11] Ym 1916, roedd yn dal gan Ystad y Faenol ac yn cael ei osod.[12] Ymddengys o'r Cyfrifiad ym 1911 a 1921, fodd bynnag, fod yr un tenant, Owen Jones, wedi ail-sicrhau'r denantiaieth.[13] Ymddengys na chafodd y fferm ei gwerthu hyd 1948. Fe'i prynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar ddiwedd y 1950au, a phlannwyd y gweirgloddiau â choed pin. Rhoddwyd y tŷ a thua 50 acer ar rent i denant, a gwerthwyd yr eiddo hwn gan y Comisiwn ar ddechrau'r 1970au.
Pan oedd penderfyniad wedi'i wneud i werthu fferm, roedd hi'n ofynnol i roi rhybudd i'r tenant fynd oddi yno, ac ym 1905, rhoddwyd rhybudd i Willikam Davies, y tenant ar y pryd. Penderfynodd hwnnw werthu ei holl stoc ac offer, ac mae';r hysbyseb am yr arwerthiant yn rhoi darlun o ffermio yr adeg honno:
ENGWM, CLYNNOG. _______
Pellder Milldir a Haner o Station Pantglas.
Mae MR ROBERT PARRY wedi ei gyfarwyddo gan Mr William Davies i Werthu ar Auction, yn y lle uchod, DDYDD SADWRN, Medi 16eg, 1905, yr Holl STOC a ganlyn, yn cynwys 36 o Fuchod a Heffrod, rhai a lloi wrth eu traed, ereill yn agos, a’r gweddill yn gyfloion; 6 o Heffrod yn codi’n ddwyflwydd; 12 o Fustych yn codi’n ddwyflwydd; 7 o Loi; Tarw dwy-flwydd; Ceffyl 4 oed yn weithiwr da; Caseg yn codi’n 4 oed, 15.3 o uchder, hwylus yn mhob gwaith; Ceffyl codi’n 4 oed, 15.2 o uchder, gonest a hwylus; Eboles codi’n 3 oed, 15.2 o uchder, wedi arfer gweithio; Merlen codi’n 4 oed, 14 o uchder, yn arfer mewn harnes; Merlen eto, codi’n 4 oed, 13.2 o uchder, wedi arfer gweithio; Merlen 7 oed, hwylus yn mhob gwaith; 2 Ferlen hardd yn codi’n 3 oed; Merlen yn codi’n 2 flwydd; Eboles yn codi’n 2 flwydd; Ebol yn codi’n 2 flwydd; 2 Gyw sugno da; Defaid haner brid; Moch; Trol newydd gref ac ysgafn i’w thynu. Coel fel yr hysbysir ar y pryd gyda meichiafon boddhaol. Yr Auction i ddechreu am 12 o’r gloch. Swyddfa’r Arwerthwr: 5, Salem Terrace, Pwllheli.[14]
Cyfeiriadau
- ↑ Y Brython, Tachwedd 1861, t.435
- ↑ R.O. Roberts, Farming in Caernarvonshire around 1800, (Caernarfon, 1973), t.51
- ↑ North Wales Chronicle, 3.2.1877, t.1
- ↑ Carnarvon and Denbigh Herald, 23.12.1887, t.8
- ↑ Herald Cymraeg, 8.11.1904, t.5
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1841-1921
- ↑ Carnarvon and Denbigh Herald, 25.7.1890, t.4
- ↑ North Wales Chronicle, 28.4.1888, t.7
- ↑ Y Genedl Gymreig, 13.8.1890, t.8
- ↑ Carnarvon and Denbigh Herald, 19.8.1898, t.7
- ↑ Cambrian News, 13.12.1907, t.6
- ↑ Herald Cymraeg, 30.5.1916, t.4
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1911-21
- ↑ North Wales Observer, 8.9.1905, t.5